ASLSC Courses
Achubwr bywyd ar y traeth lefel 1
Mae’r cymhwyster Achubwr Bywyd ar y Traeth lefel 1 yn darparu hyfforddiant sylfaenol i’ch galluogi i roi cymorth diogelwch yn ystod gweithgareddau a achredir gan CABMCymru neu i gynorthwyo wrth oruchwylio traeth. Yn ogystal mae ei angen er mwyn cystadlu mewn cystadlaethau CABMCymru.
Unedau’r Cwrs
Modiwl 1 – Theori
Cyflwyniad i Achub Bywyd ar y Traeth, Technegau Cymorth Argyfwng a Thechnegau Cyfathrebu.
Modiwl 2. Yn y pwll.
Bydd yr ymgeisydd yn dangos y gallu i nofio 20 metr mewn pwll o fewn 5 munud ar y mwyaf.
Modiwl 3. Ar Traeth.
Sgiliau ffitrwydd wrth redeg a nofio mewn tonnau, paratoi a gofalu am y badau a dangos y gallu i ddefnyddio Bwrdd Malibu.
Gofynion ffitrwydd ar gyfer yr arholiad
Nofio 200m mewn pwll 25 medr (8 hyd) mewn 5 munud neu lai.
Oedran ymgeiswyr
12 oed o leiaf
Hyd y cymhwyster
3 blynedd
Ble
Aberystwyth
Ffi Asesu
£7.50