Ymuno â CABoMA
Aelodaeth
Grwpiau Oedran:Y tâl aelodaeth yw £80 unwaith y flwyddyn i bob oedran (Plantos, Iau, Hŷn a Meistri); mae hyn ar gyfer ymaelodi, yswiriant, defnyddio offer y clwb a PHOB sesiwn hyfforddi (yn y pwll ac ar y traeth) felly ni fydd tâl ychwanegol ar gyfer sesiynau yn y pwll.
Mae aelodaeth y clwb ar gael i bawb sydd yn 7 oed ac yn hŷn; yr unig amod yw’r gallu i basio ein asesiad cymhwyster nofio sydd yn gofyn i chi allu dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer Cymhwyster Lefel 7 Dysgu Nofio y Gymdeithas Nofio Amatur.
Os hoffech roi eich enw ar restr aros y clwb neu os hoffech wybod mwy mae croeso i chi gysylltu â ni.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthoch:
Sesiynau Hyfforddi
Sesiynau’r Gaeaf yn y pwll (Tachwedd – Mawrth):
Dyddiau Sul 11yb – 12 yp (Pwll Nofio’r Brifysgol)
Sesiynau’r Haf ar y traeth (Mai – Medi):
Dyddiau Mercher 5.30yp – 6.30yp (Traeth y Gogledd)
Dyddiau Sul 11.30yb – 1.30yp (Traeth y Gogledd)
Sesiynau Dydd Gwener
Dyddiau Gwener xxxxxxxxxxxxxxx
Beth sydd ei angen arnaf i?
Sesiynau yn y pwll
Dillad nofio, sbectol dŵr, cap nofio, tywel, dŵr i’w yfed. Dewisol: esgyll nofio, bwrdd cicio, bwi tynnu.
Sesiynau ar y traeth:
Gwlypwisg, sgidiau dŵr (mae’n rhai i’r plantos wisgo sgidiau dŵr), fest nofio’r clwb, dillad nofio, sbectol nofio, eli haul, tywel, dŵr. Ac mae’n rhaid i chi ddod â dillad sych a chynnes i newid rhag ofn y bydd yn rhaid i ni adael y dŵr yn gynnar yn ystod ein sesiynau.
Mae’r clwb yn darparu’r holl offer dŵr ac offer achub ar gyfer hyfforddi.